St Baglan's
Mae eglwys Sant Baglan (neu Hen Eglwys Llanfaglan) yn sefyll mewn safle godidog yn edrych dros Bae Caernarfon gydag adleisiau chwedlau’r Mabinogi.
Cymerwch olwg ar y fynwent - mae ei ffurf yn awgrymu tarddiad cyn-Gristnogol ac mae yna swyn syml brodorol yn y wal derfyn, gwelwch arysgrif gydag enwau wardeiniaid yr eglwys uwchben y giât fynedfa ac amrywiaeth o gerrig beddi a'r cistiau llechi - heb anghofio pwt o lên gwerin boblogaidd leol, sef bedd y “môr-leidr".
Mae muriau cynharaf yr eglwys yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg ac yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gwnaethpwyd y gwaith diweddaraf fel y gwelwch heddiw.
Wrth i chi fynd i mewn i'r eglwys, edrychwch ar silff a lintel wal ddwyreiniol y porth. Yma fe welwch ddau feddfaen yn dyddio o tua’r 14eg ganrif. Mae'r ddwy garreg wedi'u cerfio â chroesau Celtaidd, ond ar yr un isaf hefyd mae yna ddelwedd llong.
Ar y tu mewn, uwchben y drws, fe welwch garreg gerfiedig hynod o'r bumed neu'r chweched ganrif sydd wedi cael ei hailddefnyddio fel lintel. Mae hon wedi'i arysgrifio gyda "Fili Lovernii Anatemori" dau enw Brythoneg Lovernius ac Anatemorus wedi eu Lladineiddio. Yn ei safle cywir, sef ar ei fyny, byddai'n darllen Anatemori Fili Lovernii.
Y tu mewn i'r eglwys fe welwch fel oedd bywyd cymdeithasol yn y ddeunawfed ganrif, yn gymysgedd o seddau cefn cymedrol a'r llociau bocs ar gyfer y pentrefwyr cyfoethocach, gan gynnwys un o Ynys Môn, ac fel y gwelwch yn aml, mae enw’r teulu a’r dyddiad arnynt.
Atgyweiriwyd yr eglwys gyda chymorth sylweddol gan Cadw.
Fel gyda phob eglwys yng Nghymru, os nad ydych yn gyfarwydd â'r Gymraeg, bydd cael geiriadur Cymraeg-Saesneg poced gyda chi, neu ap geiriadur Cymraeg-Saesneg ar eich ffôn, yn gwella'ch ymweliad â'n heglwysi yn fawr.
Visitor Info
Keyholder
Open daily
Location
OS Reference: SH 4554 6068
Find on Google Maps